Croeso i Cwrw Cader

Bragdy bychan yn nhref farchnad hardd Dolgellau, wrth droed Cader Idris, yn ne Eryri ydym ni. Rydym yn cynhyrchu dewis da o gwrw o safon mewn casgenni a photeli sy’n cael eu gwerthu i fusnesau neu i’r cyhoedd. Rydyn ni hefyd yn cynnig teithiau o amgylch y bragdy.